. |
 |
Caltha palustris |
Gold y gors/ Melyn y gors
|
TEULU’R BLODYN YMENYN , RANUNCULACEAE |
|
 |
. |
Planhigyn lluosflwydd, di-flew, gyda choesyn canghennog, nobl, gwag yn ffurfio clympiau a chlystyrau mewn corsydd, caeau gwlyb, ffosydd a choed gwlyb. |
Yn gyffredin ond nid cymaint ag a fu oherwydd draenio’r tir a dulliau modern o amaethu yn achosi diflaniad hen weirgloddiau. |
Mae’r planhigyn yn wenwynig a bydd anifeiliaid sy’n pori yn ei osgoi. |
Mae planhigion mewn ardaloedd mynyddig yn fach a bydd y coesyn weithiau’n pydru; bydd y rhain yn blodeuo’n ddiweddarach. |
Mae garddwyr yn tyfu amrywiadau oren a rhai â blodau dwbl. |
 |
FFEIL FFEITHIAUTALDRA: |
TALDRA |
20 -50 cm |
BLODAU:
|
Aur felyn, disglair, 2-5 cm ar draws, gyda 5 sepal sy’n debyg i betalau a llawer o frigerau melyn |
DAIL: |
Siâp aren / calon, hyd at 10cm ar draws, gwyrdd tywyll, gydag ochrau crwn, danheddog, taclus |
FFRWYTHAU: |
Grwpiau o 5-15 o ffrwythau gyda phig arnynt sy’n 10-18 mm o hyd gyda llawer o hadau ynddynt |
PLANHIGION TEBYG: |
Mae gan y blodau ymenyn (t. 35-39) sepalau a phetalau ar wahân, a ffrwythau gydag un hedyn ynddynt. |
. |
 |
Blodau |
 |
. |
Amrywiadau wedi’u tyfu |
 |
Diolch i Bethan Wyn Jones am destun yn Blodau Gwyllt a gyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch |
. |
Noddir y dudalen hon gan:- |
The Water Margins Plant Nursery |
 |
. |
Ydych chi eisiau tyfu eich un chi ? |
 |
. |
www.grownintheuk.co.uk |
 |
|
|
|