Silene dioica
Blodyn neidr neu Blodyn taranau
TEULU’R PENIGAN , CAROPHYLLACEAE
Planhigyn eilflwydd neu luosflwydd, blewog, unionsyth, canghennog sy’n tyfu mewn coedlannau, ar hyd lonydd cysgodol, gwrychoedd a chreigiau’r arfordir. . |
Mae’n ddigon cyffredin yng Nghymru, ond yn brin yn yr Iwerddon. . |
Bydd yn croesi’n aml gyda’r gludlys gwyn , yn arbennig ble’r aflonyddwyd ar y cynefin. . |
Planhigyn cynhenid y coedlannau yw’r blodyn neidr sydd wedi ehangu ei gynefin. . |
Efallai ei fod wedi addasu i gynefinoedd mwy agored oherwydd croesiadau dros sawl cenhedlaeth. . |
Tyfir amrywiad hardd gyda blodyn dwbl yn tyfu’n yr ardd. . |
Mae’r enw blodyn taranau neu flodyn tyrfe hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn rhai ardaloedd. |
FFEIL FFEITHIAU . |
TALDRA: |
20 -90 cm. . |
BLODAU: |
Pinc tywyll, 15 – 25 mm ar draws, blodau gwrywaidd a benywaidd ar wahanol blanhigion, dim arogl, 5 petal wedi’i bylchu’n ddwfn; calycs 10 gwythïen (blodau gwrywaidd) neu galycs 20 gwythïen (blodau benywaidd) . |
DAIL: |
Mewn parau gyferbyn â’i gilydd, fwy neu lai yn siâp gwaywffon, pigfain, i’w gweld yn y gaeaf . |
FFRWYTHAU: |
Capsiwlau silindraidd, yn agor gyda 10 dant sy’n crymu’n ôl . |
PLANHIGION TEBYG: |
Planhigion tebyg ond yn dalach gyda blodau pinc golau yw hybrid croesiadau gyda’r gludlys gwyn (t. 28). Mae gan carpiog y gors (t. 26) betalau sydd wedi’i torri’n 4 llabed ddofn. |
Blodeuog dwbl wedi’i drin
Diolch i Bethan Wyn Jones am destun yn Blodau Gwyllt a gyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch