| . |
 |
| Silene uniflora |
Gludlys arfor
|
TEULU’R PENIGAN , CAROPHYLLACEAE
|
|
|
|
|
|
 |
| . |
 |
|
| Planhigyn lluosflwydd, yn ffurfio clystyrau a chlustogau llac ar draethau graeanog, clogwyni, creigiau a waliau ger y môr. |
| Cewch hyd iddo ar fynyddoedd, creigiau sy’n gyfoethog mewn plwm, tomenni rwbel o fwyngloddiau plwm ac ar lannau llynnoedd. |
| . |
| Yng ngorllewin Cymru fe’i gwelir ambell dro mewn mynwentydd ble defnyddiwyd graean sy’n gyfoethog mewn plwm i orchuddio’r beddau. |
|
Mae’n rhywogaeth amrywiol iawn, yn arbennig ym mynyddoedd gorllewin a chanol Ewrop, a gall fod yn anodd gwahaniaethu rhyngddo â’r gludlys codrwth.
|
| . |
 |
| . |
FFEIL FFEITHIAU
|
| TALDRA: |
|
10 -30 cm
|
BLODAU:
|
|
Fel arfer ar eu pennau eu hunain, gwyn, 20 -25 mm ar draws, gyda 5 petal wedi’i bylchu’n ddwfn, calycs siâp tebyg i bledren silindraidd, yn wyrdd, melyn neu borffor
|
|
.
|
 |
| . |
|
DAIL:
|
|
Siâp gwaywffon, anhyblyg, pigfain, noddlawn, llwyd
|
|
FFRWYTHAU
|
|
Capsiwlau silindraidd, yn agor gyda 5 dant sydd oddi fewn i galycs parhaol, tenau fel papur
|
|
.
|
|

|
| . |
|
PLANHIGION TEBYG
|
|
Mae’r gludlys codrwth (t. 29) fwy neu lai’n unionsyth gyda choesyn canghennog.
|
| . |
 |
Diwylliedig Silene uniflora Druett's Variegated
|
| . |
| Diolch i |
| Bethan Wyn Jones am destun yn Blodau Gwyllt a gyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch |
| . |
|
|
|
 |
|
|
|
|