. |
![Wales 1](https://grownintheuk.co.uk/wp-content/uploads/2021/02/Wales-1-300x210.png) |
Silene uniflora |
Gludlys arfor
|
TEULU’R PENIGAN , CAROPHYLLACEAE
|
|
|
|
|
|
![Grown in the UK Silene uniflora 4](https://grownintheuk.co.uk/wp-content/uploads/2021/02/Grown-in-the-UK-Silene-uniflora-4.jpg) |
. |
![Grown in the UK Silene uniflora 2](https://grownintheuk.co.uk/wp-content/uploads/2021/02/Grown-in-the-UK-Silene-uniflora-2.jpg) |
|
Planhigyn lluosflwydd, yn ffurfio clystyrau a chlustogau llac ar draethau graeanog, clogwyni, creigiau a waliau ger y môr. |
Cewch hyd iddo ar fynyddoedd, creigiau sy’n gyfoethog mewn plwm, tomenni rwbel o fwyngloddiau plwm ac ar lannau llynnoedd. |
. |
Yng ngorllewin Cymru fe’i gwelir ambell dro mewn mynwentydd ble defnyddiwyd graean sy’n gyfoethog mewn plwm i orchuddio’r beddau. |
Mae’n rhywogaeth amrywiol iawn, yn arbennig ym mynyddoedd gorllewin a chanol Ewrop, a gall fod yn anodd gwahaniaethu rhyngddo â’r gludlys codrwth.
|
. |
![Grown in the UK Silene uniflora 3](https://grownintheuk.co.uk/wp-content/uploads/2021/03/Grown-in-the-UK-Silene-uniflora-3.jpg) |
. |
FFEIL FFEITHIAU
|
TALDRA: |
10 -30 cm
|
BLODAU:
|
Fel arfer ar eu pennau eu hunain, gwyn, 20 -25 mm ar draws, gyda 5 petal wedi’i bylchu’n ddwfn, calycs siâp tebyg i bledren silindraidd, yn wyrdd, melyn neu borffor
|
.
|
![Grown in the UK Plant Flowering Months W](https://grownintheuk.co.uk/wp-content/uploads/2021/03/Grown-in-the-UK-Plant-Flowering-Months-W.png) |
. |
DAIL:
|
Siâp gwaywffon, anhyblyg, pigfain, noddlawn, llwyd
|
FFRWYTHAU
|
Capsiwlau silindraidd, yn agor gyda 5 dant sydd oddi fewn i galycs parhaol, tenau fel papur
|
.
|
![Grown in the UK Silene uniflora 5](https://grownintheuk.co.uk/wp-content/uploads/2021/03/Grown-in-the-UK-Silene-uniflora-5.jpg)
|
. |
PLANHIGION TEBYG
|
Mae’r gludlys codrwth (t. 29) fwy neu lai’n unionsyth gyda choesyn canghennog.
|
. |
![Grown in the UK Silene uniflora 7](https://grownintheuk.co.uk/wp-content/uploads/2021/03/Grown-in-the-UK-Silene-uniflora-7.jpg) |
Diwylliedig Silene uniflora Druett's Variegated
|
. |
Diolch i |
Bethan Wyn Jones am destun yn Blodau Gwyllt a gyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch |
. |
|
|
|
![](https://grownintheuk.co.uk/wp-content/uploads/2023/12/Grown-in-the-UK-1-1-227x300.jpg) |
|
|
|
|