Silene dioica
Blodyn neidr neu Blodyn taranau
TEULU’R PENIGAN , CAROPHYLLACEAE
Planhigyn eilflwydd neu luosflwydd, blewog, unionsyth, canghennog sy’n tyfu mewn coedlannau, ar hyd lonydd cysgodol, gwrychoedd a chreigiau’r arfordir.
Mae’n ddigon cyffredin yng Nghymru, ond yn brin yn yr Iwerddon.
Bydd yn croesi’n aml gyda’r gludlys gwyn , yn arbennig ble’r aflonyddwyd ar y cynefin.
Planhigyn cynhenid y coedlannau yw’r blodyn neidr sydd wedi ehangu ei gynefin.
Efallai ei fod wedi addasu i gynefinoedd mwy agored oherwydd croesiadau dros sawl cenhedlaeth.
Tyfir amrywiad hardd gyda blodyn dwbl yn tyfu’n yr ardd.
Mae’r enw blodyn taranau neu flodyn tyrfe hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn rhai ardaloedd.
FFEIL FFEITHIAU
TALDRA:
20 -90 cm.
BLODAU:
Pinc tywyll, 15 – 25 mm ar draws, blodau gwrywaidd a benywaidd ar wahanol blanhigion, dim arogl, 5 petal wedi’i bylchu’n ddwfn; calycs 10 gwythïen (blodau gwrywaidd) neu galycs 20 gwythïen (blodau benywaidd)
DAIL:
Mewn parau gyferbyn â’i gilydd, fwy neu lai yn siâp gwaywffon, pigfain, i’w gweld yn y gaeaf
FFRWYTHAU:
Capsiwlau silindraidd, yn agor gyda 10 dant sy’n crymu’n ôl
PLANHIGION TEBYG:
Planhigion tebyg ond yn dalach gyda blodau pinc golau yw hybrid croesiadau gyda’r gludlys gwyn. Mae gan carpiog y gors betalau sydd wedi’i torri’n 4 llabed ddofn.
Blodeuog dwbl wedi’i drin
Diolch i Bethan Wyn Jones am destun yn Blodau Gwyllt a gyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch