.
Wales 1
Caltha palustris

Gold y gors/ Melyn y gors

TEULU’R BLODYN YMENYN , RANUNCULACEAE

Grown in the UK Caltha palustris 1
.
Planhigyn lluosflwydd, di-flew, gyda choesyn canghennog, nobl, gwag yn ffurfio clympiau a chlystyrau mewn corsydd, caeau gwlyb, ffosydd a choed gwlyb.
 Yn gyffredin ond nid cymaint ag a fu oherwydd draenio’r tir a dulliau modern o amaethu yn achosi diflaniad hen weirgloddiau.
  Mae’r planhigyn yn wenwynig a bydd anifeiliaid sy’n pori yn ei osgoi.
 Mae planhigion mewn ardaloedd mynyddig yn fach a bydd y coesyn weithiau’n pydru; bydd y rhain yn blodeuo’n ddiweddarach. 
Mae garddwyr yn tyfu amrywiadau oren a rhai â blodau dwbl.
Grown in the UK Caltha palustris 2
FFEIL FFEITHIAUTALDRA:
TALDRA
20 -50 cm
BLODAU:
Aur felyn, disglair, 2-5 cm ar draws, gyda 5 sepal sy’n debyg i betalau a llawer o frigerau melyn 
DAIL:
Siâp aren / calon, hyd at 10cm ar draws, gwyrdd tywyll, gydag ochrau crwn, danheddog, taclus
 FFRWYTHAU:
 Grwpiau o 5-15 o ffrwythau gyda phig arnynt sy’n 10-18 mm o hyd gyda llawer o hadau ynddynt
 PLANHIGION TEBYG:
 Mae gan y blodau ymenyn (t. 35-39) sepalau a phetalau ar wahân, a ffrwythau gydag un hedyn ynddynt.
.
Grown in the UK Caltha palustris 3
Blodau
Grown in the UK Caltha palustris 6
.
Amrywiadau wedi’u tyfu
Grown in the UK Caltha palustris 4
Diolch i Bethan Wyn Jones am destun yn Blodau Gwyllt a gyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch
.
Noddir y dudalen hon gan:-
The Water Margins Plant Nursery
Grown in the UK More Information2
.
Ydych chi eisiau tyfu eich un chi ?
 Suppliers 2
.

www.grownintheuk.co.uk

Grown in the UK Caltha palustris 5