.
Wales 1
Silene uniflora

Gludlys arfor

TEULU’R PENIGAN , CAROPHYLLACEAE

Grown in the UK Silene uniflora 4
.
Grown in the UK Silene uniflora 2
Planhigyn lluosflwydd, yn ffurfio clystyrau a chlustogau llac ar draethau graeanog, clogwyni, creigiau a waliau ger y môr. 
 Cewch hyd iddo ar fynyddoedd, creigiau sy’n gyfoethog mewn plwm, tomenni rwbel o fwyngloddiau plwm ac ar lannau llynnoedd. 
.
 Yng ngorllewin Cymru fe’i gwelir ambell dro mewn mynwentydd ble defnyddiwyd graean sy’n gyfoethog mewn plwm i orchuddio’r beddau.

 Mae’n rhywogaeth amrywiol iawn, yn arbennig ym mynyddoedd gorllewin a chanol Ewrop, a gall fod yn anodd gwahaniaethu rhyngddo â’r gludlys codrwth.

.
 Grown in the UK Silene uniflora 3
.
FFEIL FFEITHIAU
TALDRA:

10 -30 cm

BLODAU:

Fel arfer ar eu pennau eu hunain, gwyn, 20 -25 mm ar draws, gyda 5 petal wedi’i bylchu’n ddwfn, calycs siâp tebyg i bledren silindraidd, yn wyrdd, melyn neu borffor

.

Grown in the UK Plant Flowering Months W
.

DAIL:

Siâp gwaywffon, anhyblyg, pigfain, noddlawn, llwyd

FFRWYTHAU

Capsiwlau silindraidd, yn agor gyda 5 dant sydd oddi fewn i galycs parhaol, tenau fel papur

.

Grown in the UK Silene uniflora 5

.

PLANHIGION TEBYG

Mae’r gludlys codrwth (t. 29) fwy neu lai’n unionsyth gyda choesyn canghennog.

 .
 Grown in the UK Silene uniflora 7

Diwylliedig Silene uniflora Druett's Variegated

.
Diolch i
Bethan Wyn Jones am destun yn Blodau Gwyllt a gyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch
.